Mae’r ddeuawd cerddorol doniol HyWelsh wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf heddiw, 7 Rhagfyr.
Pwy neu beth ydy HyWelsh dwi’n clywed rhai yn holi? Bydd cannoedd o ddarllenwyr eraill yn ymwybodol iawn mai HyWelsh ydy’ prosiect ar y cyd rhwng y ddeuawd gomedi poblogaidd Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer.
Bydd gwylwyr gwasanaeth Hansh, sef gwasanaeth eitemau pobl ifanc S4C ar lwyfannau digidol, yn gyfarwydd iawn â gweld y ddau artist poblogaidd yn perfformio caneuon doniol ar eitemau Hansh sy’n ymddangos ar Facebook.
Mae rhai o’r fideos o’r caneuon comedi mae’r ddeuawd wedi cyhoeddi wedi bod yn hynod boblogaidd gan ddenu cannoedd o filoedd o bobl i’w gwylio, felly bydd croeso mawr i’r newyddion bod albwm cyntaf y ddeuawd allan ar label Tarw Du mewn pryd i’r Nadolig.
Enw’r albwm ydy Y Gorau Hyd yn Hyn, ac mae’r enw’n esbonio’r hyn y gallwn ddisgwyl, sef casgliad o bymtheg cân mae’r ddau wedi recordio ar gyfer Hansh rhwng 2016 a 2018.
Ymysg y caneuon mwyaf poblogaidd mae ‘Quiche Lorraine’, ‘Arweinyddiaeth Cryf’, ‘Tafodiaith’ ac ‘A470’.
Gigs HyWelsh
Mae’r Welsh Whisperer a Hywel Pitts yn ddau berfformiwr unigol poblogaidd wrth gwrs, ac yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd gigs byw ledled Cymru.
Maent hefyd wedi bod yn perfformio’n fyw ar y cyd ers rhai blynyddoedd bellach a bydd cyfle i’r gweld yn perfformio cyn y Nadolig mewn gig yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth ar 23 Rhagfyr.
Mae’r gig yn rhan o daith Cabarela, sef taith y triawd lleisiol Sorela a’u gwesteion wrth arwain at y Nadolig – gall Y Selar adrodd bod tocynnau’n brin iawn ar gyfer y gig erbyn hyn felly bachwch un yn go handi os ydach chi am fod yna!
Mae addewid hefyd o fwy o gigs yn y flwyddyn newydd.
Dyma un o fideos mwyaf poblogaidd y ddeuawd, ‘Tafodiaith’:
👅🗣 HYWELSH: TAFODIAITH 🎶Problemau cyfathrebu Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer.(Rhybudd: iaith gref!)
Posted by Hansh on Wednesday, 2 August 2017