Pwt o newyddion wythnos Steddfod allech chi fod wedi’i golli yng nghanol mir Bae Caerdydd oedd bod Gwilym Bowen Rhys wedi ennill Tlws Coffa Sbardun eleni.
Ac mae Gwilym bellach wedi penderfynu rhyddhau’r gân fuddugol yn rhad ac am ddim ar ei safle Bandcamp.
‘Clychau’r Gog’ ydy enw’r diwn a gipiodd Dlws Coffa Sbardun ym Mae Caerdydd eleni, y wobr a sefydlwyd er cof am y cerddor amlwg Alun ‘Sbardun’ Huws.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i gyfansoddiad o gân wreiddiol acwstig ei naws. Bu farw Sbardun yn 2014, a lansiwyd y gystadleuaeth yn 2016 gydag Elidyr Glyn o’r band Bwncath yn cipio’r wobr gyntaf gyda’r gân ‘Curiad y Dydd’. Rhodri Lloyd Evans o Lansannan enillodd y wobr yn 2017 gyda’r gân ‘Y Ceidwad Cudd’.
Daw’r sengl gwta wythnos ar ôl i Gwilym ryddhau ei albwm unigol diweddaraf, Detholiad o Hen Faledi, ddaeth allan yn swyddogol ar 31 Awst.
Cyhoeddwyd hefyd fideo o un o ganeuon yr albwm, sef ‘Hogyn Gyrru’r Wedd’, y diwrnod blaenorol ond gan mai casgliad o ddehongliadau Gwilym o hen alawon traddodiadol ydy’r albwm newydd, nid yw ‘Clychau’r Gog’ wedi ei chynnwys ar y record.
Aled Hughes, sydd hefyd yn gyfrifol am y label sy’n rhyddhau cynnyrch Gwilym sef Sbrigyn-Ymborth / Recordiau Erwydd, sydd wedi cynhyrchu ‘Clychau’r Gog’ ac fe’i recordiwyd yn stiwdio Penhesgyn ar Ynys Môn.