Bydd Rhys Gwynfor yn rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener yma, 26 Hydref.
Dyma fydd yr ail sengl i Rhys Gwynfor ryddhau ar label Recordiau Côsh.
Ryddhawyd ei gân ddiwethaf, ‘Capten’, gan y label yn ôl ym mis Mehefin a chafodd dderbyniad da gan gyfryngau Cymru, gan gynnwys cael ei dewis fel ‘Trac yr Wythnos’ ar orsaf Radio Cymru.
Ers hynny mae Rhys wedi bod yn brysur yn ysgrifennu caneuon a recordio demos gyda’r bwriad o ryddhau mwy o senglau yn y lle cyntaf, ond gyda gobaith hirdymor o recordio a rhyddhau albwm yn 2019.
Mae ‘Canolfan Arddio’ yn cyffroi o’r nodyn cyntaf ac yn llwyddo i swnio fel cân o unrhyw un o’r bedair ddegawd dwytha, tra’n swnio’n hollol gyfoes hefyd, diolch i waith cynhyrchu arbennig ac unigryw Ifan Jones ac Osian Williams yn stiwdio DRWM, Llanllyfni.
Ers i ‘Capten’ gael ei rhyddhau, mae’n debyg bod Rhys wedi derbyn llawer o gynigion i chwarae gigs ledled y wlad ac os bydd y galwadau’n parhau, dywed y label bod bwriad ganddo ffurfio band i berfformio’n ystod haf 2019.
Cafodd y sengl newydd ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Tudur Owen ar Radio Cymru ddydd Gwener, 19 Hydref.
Dyma fideo sengl ddiwethaf Rhys, ‘Capten’, a gynhyrchwyd gan Ochr 1: