Mae’r cerddor ifanc o’r Felinheli, Elis Derby, wedi ryddhau sengl ddwbl sydd ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol o’i safle Bandcamp ac iTunes.
Bydd Elis yn gyfarwydd i rai fel canwr y grŵp o ardal Bangor, Chwalfa, a chwalodd llynedd.
Ers hynny, mae wedi bod yn prysur sefydlu ei hun fel artist unigol, ac fe gafodd gryn lwyddiant yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Radio Cymru a Maes B eleni gan gyrraedd y rownd derfynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
‘Sut Allai Gadw Ffwrdd’ a ‘Myfyrio’ ydy teitlau’r ddau drac sydd wedi eu rhyddhau’n ddigidol fel sengl ddwbl a dyma gynnyrch swyddogol cyntaf Elis fel artist unigol.
Recordiwyd y traciau yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni gydag Ifan Emlyn yn gyfrifol am y gwaith cynhyrchu. Dywed Elis ei fod yn gobeithio dychwelyd i’r stiwdio ym mis Tachwedd er mwyn recordio rhagor o draciau.
Yn y cyfamser mae Elis yn canolbwyntio ar gigio’n gyson dros ledled Gogledd Cymru dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â gigs wedi eu trefnu yng Nghaerdydd a Manceinion. Bydd Elis yn perfformio gyda’i fand newydd sy’n cynnwys Sion Gwyn ar y gitâr flaen, Llion Hughes ar y gitâr fas a Carwyn Williams ar y drymiau.
Dyma Elis yn chwarae’r trac ‘Myfyrio’ ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd Llanelwedd eleni: