Bydd ail-gymysgiad FRMAND o drac Mabli Tudur, ‘Fi yw Fi’, yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar lwyfannau digidol ddydd Gwener yma, 2 Tachwedd.
Rhoddwyd sylw i’r trac ar wefan Y Selar wrth iddo gael ei ryddhau i’w ffrydio ar Soundcloud ac YouTube ers diwedd mis Awst, ond o ddydd Gwener ymlaen bydd ar gael yn swyddogol ar label Recordiau BICA.
Rhyddhawyd y sengl wreiddiol gan Mabli Tudur dros flwyddyn yn ôl, ond yn ystod ei pherfformiad o’r gân yn Eisteddfod Bae Caerdydd, cafodd ei chlywed gan yr artist cerddoriaeth electroneg FRMAND.
Roedd y ddau eisoes yn adnabod ei gilydd ers cwrdd yng Ngŵyl Crug Mawr nôl yn 2015, ac yn ystod gig nos Fercher Maes B eleni, daeth y ddau i gysylltiad eto, a chytunwyd y byddai FRMAND yn rhoi cynnig ar ail-gymysgu’r gân.
O fewn pythefnos, roedd y fersiwn newydd o’r trac wedi’i recordio, a’r bwriad gwreiddiol oedd lansio ym mis Medi.
Y sengl ydy cynnyrch swyddogol cyntaf y label newydd Recordiau BICA. Ffurfiwyd y label yn Llangrannog ym mis Awst eleni, ac y nod ydy cefnogi a datblygu artistiaid electroneg Cymraeg gan gynnwys cerddorion, DJs a chynhyrchwyr cerddorol.
“Y ffocws ar hyn o bryd yw i hyrwyddo cerddoriaeth electroneg iaith Gymraeg gyda’r gobaith o ysbrydoli mwy o Gymry i greu a pherfformio cerddoriaeth electroneg yn yr iaith” meddai Recordiau BICA.
Yn ôl y label maen nhw mewn trafodaethau gydag artistiaid Cymraeg eraill ar hyn o bryd.