Rhyddhau Le Kov gan Gwenno

Mae albwm gwbl Gernyweg cyntaf Gwenno, Lo Kov, wedi’i ryddhau’n swyddogol ar ddydd Gwener 2 Mawrth

Rhyddhawyd yr albwm ar label Heavenly Records a gyma gynnyrch cyntaf Gwenno ers rhyddhau ei LP cyntaf, Y Dydd Olaf, yn 2014 – record Gymraeg oedd yn cynnwys un trac yn y Gernyweg arni sef ‘Amser’.

Cyhoeddwyd fideo i’r trac o’r albwm, ‘Tir Ha Mor’, sy’n cyfieithu i ‘Tir a Môr’ dros fis yn ôl, ac mae eisoes wedi denu miloedd o bobl i wylio ar YouTube. Mae’r albwm yn cynnwys deg o draciau i gyd, ac eisoes wedi denu llwyth o adolygiadau ffafriol ar amryw gyfryngau cerddoriaeth.

Mae modd prynu’r albwm, sydd hefyd ar gael ar fersiwn feinyl nifer cyfyngedig, nawr ar wefan Heavenly.