Mae’n ymddangos bod adfywiad y grŵp o Fangor, I Fight Lions, yn parhau wrth iddyn nhw ryddhau sengl newydd arall wythnos diwethaf.
‘Llwch ar yr Aelwyd’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp a ryddhawyd wythnos diwethaf (18 Mai), ac mae allan ar label Recordiau Côsh a Recordiau Syrcas.
Dyma’r ail sengl i’w rhyddhau oddi ar record hir newydd I Fight Lions fydd allan ddiweddarach yr haf yma.
Mae’r sengl newydd yn dilyn llwyddiant y trac ‘Calon Dan Glô’ a fu’n Drac yr Wythnos Radio Cymru rai wythnosau yn ôl. Cafodd ‘Llwch ar yr Aelwyd’ ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher diwethaf, 9 Mai.
Ymddangosodd y band yn ngŵyl Focus Wales yn ddiweddar, a derbyn ymateb arbennig o dda.
Roedd ‘Calon Dan Glô’ yn dipyn o diwn, a di’r sengl ddiweddaraf ddim yn ddrwg chwaith, sy’n argoeli’n arbennig o dda ar gyfer yr albwm llawn.