Mae’n gyfnod cyffrous i’r band pop gofodol o Ddyffryn Conwy, Serol Serol, wrth iddyn nhw baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r band, ar ddydd Gwener 23 Mawrth.
A daeth tamaid blasus i aros pryd ddydd Gwener diwethaf, 9 Mawrth, wrth iddynt ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Arwres’, law yn llaw â fideo Ochr 1 ar-lein.
Dwy gyfnither, sef Mali Siôn a Leusa Rhys, sy’n bennaf gyfrifol am Serol Serol, gan gydweithio â George Amor (Omaloma, Sen Segur) a Llŷr Pari (Palenco, Omaloma), ac maen nhw wedi creu cryn argraff gyda’u sŵn pop gofodol.
Hon ydy pedwaredd sengl Serol Serol hyd yma, yn dilyn ‘Cadwyni’ ym mis Mehefin diwethaf, ‘Aelwyd’ ym mis Awst, ac yna ‘K-TA’ ym mis Chwefror eleni.
“Deni’n eithaf newydd i’r sin ac ond wedi chware llond llaw o gigs, ond mae’r senglau wedi rhoi blas go dda i bawb o’r albwm” meddai Mali a Leusa.
“Da ni wedi bod yn recordio’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, ac mae hi wedi bod yn broses rhyfedd, gan fod pawb ar wahân. Ond rhywsut, mae’r darnau wedi disgyn i’w lle.
“Mi fase’n ni’n disgrifio’r sŵn fel spacey neu groovy; eithaf gwahanol i beth sy’ yn y sin Gymraeg ar y funud. ‘De ni wedi dewis genre eithaf sbesiffig, ac yn ôl Huw Stephens, ‘de ni ‘chydig bach fel y Beyonce Cymraeg!”
Os am flas o sŵn byw Serol Serol yna bydd modd eu dal nhw’n perfformio yng Nglwb Rygbi Nant Conwy ger Llanrwst ar 31 Mawrth.
Dyma sgwrs Heledd Watkins gyda merched Serol Serol yng Ngwobrau’r Selar fis diwethaf: