Rhyddhau sengl Chroma

Mae’r triawd roc o’r cymoedd, Chroma wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd gyda label Popty Ping.

Rhyddhawyd y ddau drac newydd ddydd Gwener, 9 Tachwedd ac enwau’r caneuon newydd ydy ‘Girls Talk’ a ‘Nos Da Susanna’.

Mae modd prynu’r traciau yn ddigidol ar safle Popty Ping, ond, yn llawer mwy cyffrous na hynny, mae’r sengl hefyd wedi’i ryddhau ar fformat feinyl porffor nifer cyfyngedig.

Yn ôl y label, maen nhw wedi gwasgu 500 copi feinyl o’r sengl, a ni fydd rhagor yn cael eu gwasgu. Bydd y recordiau i gyd wedi eu rhifo’n unigol â llaw.

Fideo ‘Girls Talk’

Mae’r grŵp hefyd wedi rhyddhau fideo ar gyfer y trac Saesneg, ‘Girls Talk’ sydd eisoes yn cael ymateb arbennig o dda.

Mae’r ddau drac wedi eu peiriannu, recordio, cymysgu a chynhyrchu gan Charlie Francis, yn Musicbox, Caerdydd. Mae Francis yn adnabyddus am ei waith blaenorol gyda REM, Future of the Left a Manic Street Preachers ymysg eraill. Ariannwyd y sesiynau gan Gronfa Lansio Gorwelion.

Yn ôl y label, roedden nhw’n awyddus iawn i weithio gyda Chroma gan eu bod nhw’n wahanol iawn i fandiau eraill o Gymru ar hyn o bryd. Cafodd y fargen ei tharo rhwng y label a’r band yn dilyn perfformiad Chroma yng Ngorsaf Ganolog Wrecsam yn ystod gŵyl Focus Wales yn gynharach eleni.

Bydd cyfle i weld Chroma yn perfformio’r fyw nos fory fel rhan o ddathliadau pen-blwydd lleoliad amlwg Gwdihŵ yng Nghaerdydd ar 15 Tachwedd.