Bydd y band dirgel Ilu yn rhyddhau eu sengl cyntaf, ‘Graffiti Hen Ewrop’ ddiwedd mis Gorffennaf.
Ilu ydy’r band diweddaraf i ryddhau eu cynnyrch ar label hynod gynhyrchiol Recordiau Libertino, a bydd y sengl allan ar 27 Gorffennaf.
“Emynau o dorcalon a myfyrdod ar golled a galar wedi eu gwisgo yn egni ac arbrofi cerddoriaeth Gorllewin yr Almaen yn y 70au (Neu!, Can, Faust) – dyna ilu” meddai Libertino am y grŵp dirgel.
“Ond o dan hynny hefyd mae moderniaeth Ewropeaidd ac wedi ei gyplu a chyfansoddi organig mae’n plethu i symudiad Krautrock lle mae’r curiad dinesig yn gyrru y gân.”
Mae’r sengl wedi’i recordio yn Tallin, Estonia a Gorllewin Cymru, ac yn ôl y grŵp daeth y geiriau ar gyfer y gân wrth yrru yn yr eira yn Tallinn ar ddydd Nadolig – “yr awyr yn llawn tristwch a galar.”
“Ro’n i newydd golli fy nhad rai misoedd cyn symud i Tallinn ac roeddwn yn delio gyda’m galar a’m dryswch oedd yn fy llethu ar y pryd” meddai’r artist sydd heb ddatgelu pwy yn union ydyw hyd yma.
Mae’r gwaith recordio a chymysgu wedi’i wneud dan gyfarwyddwyd y cynhyrchydd Tim Lewis (Coil, Julian Cope, Spiritualized) yn ei stiwdio yn nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Mastrwyd gan Iwan Morgan (Euros Childs, Gruff Rhys, Cate Le Bon, Sweet Baboo ayb).