Rhyddhau Sengl Nadolig Einir Dafydd

Mae’r gantores o Sir Benfro, Einir Dafydd, wedi rhyddhau sengl Nadolig ar 14 Rhagfyr.

‘Heno Carolau’ ydy enw’r sengl ac fe’i rhyddhawyd ar label Recordiau Fflach.

Mae’r gân yn sôn am stori’r geni a’r atgofion sy’n deffro pan glywir sain carolau. Yn ymuno ag Einir ar y seng mae plant côr Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg sy’n canu ar y trac.

Bydd Einir yn gyfarwydd fel un o gyn-gyflwynwyr gwasanaeth Cyw ar S4C, ond cyn hynny roedd yn aelod o’r grŵp Garej Dolwen. Ers hynny mae wedi cael llwyddiant fel cerddor unigol hefyd, gan gipio teitl cyfres deledu Wawffactor (cofio hwna?!) ar S4C yn 2006. Fe ryddhaodd ei EP cyntaf, Y Garreg Las, yn yr un flwyddyn.

Rhyddhaodd Einir EP arall o’r enw Ffeindia Fi yn 2007 gan ddod i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r gân ‘Blwyddyn Mas’ a gyfansoddodd ar y cyd â’r Prifardd Ceri Wyn Jones yn yr un flwyddyn.

Rhyddhaodd Einir ei thrydydd EP ar Recordiau Fflach yn 2009, sef Pwy Bia’r Aber, ac yna casgliad byr arall o’r enw Ewn Ni Nôl yn 2012.

‘Heno Carolau’ ydy’r cynnyrch cyntaf iddi ryddhau ers peth amser, ond yn ôl Flach mae’n sengl deimladwy sy’n gwneud i ni deimlo’n Nadoligaidd, gan hefyd gofio am wir ystyr y Nadolig.

Mae’r debyg y gallwn ddisgwyl EP newydd gan Einir Dafydd yn fuan yn y flwyddyn newydd gyda chaneuon newydd sbon gan y gantores.