Mae Recordiau Neb wedi rhyddhau casét diweddaraf gan yr artist electroneg amgen o Bencoed, Twinfield.
NEB007 ydy rhif catalog y casét diweddaraf o’r casgliad, ac mae cynnwys dau drac sef ‘Atgenhedlu’ a ‘Kim Kardashian’.
Mae’r label hefyd wedi datgelu bod cod lawr lwytho arbennig gyda phob copi o NEB007 ar gyfer trac cudd.
Dyma’r ail sengl i’w rhyddhau gan Twinfield hyd yma eleni, yn dilyn y gân ‘Siwrnai Saff’ a ryddhawyd fel rhan o gyfres Senglau Sain ar 16 Chwefror.
Dyma ‘Atgenhedlu’ (sy’n fflipin tiiiiwn gyda llaw):