Rhyddhau Sengl Rifleros

Wedi cyfnod cymharol segur, mae Rifleros wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Gwneud Dim Byd’.

Band pedwar aelod sydd wedi ffurfio ers cwpl o flynyddoedd yng Nghaerdydd ydy Rifleros. Yr aelodau ydy Rhydian, Gruff, Garmon a Sion – bydd Rhydian yn gyfarwydd i nifer fel prif ganwr Creision Hud / Hud rai blynyddoedd yn ôl, a bydd rhai yn adnabod Sion fel drymiwr Violas.

Y sengl newydd ydy cynnyrch cyntaf y band ers iddyn nhw ryddhau eu hunig albwm, Am Beth Wyt Ti’n Aros, nôl yn 2016 ar label JigCal. Mae’r grŵp yn disgrifio eu cerddoriaeth fel ‘roc blŵs’.

JigCal sy’n gyfrifol am ryddhau’r sengl ddiweddaraf hefyd, a bu’r band yn recordio gyda rheolwr y label hwnnw, Mei Gwynedd, yn stiwdio Seindon y tro yma hefyd.

Rhyddhawyd ‘Gwneud Dim Byd’ ar ddydd Gwener 20 Gorffennaf, ac mae’n debyg bod y grŵp wedi recordio rhagor o draciau ac yn bwriadu rhyddhau casgliad newydd o ganeuon cyn diwedd y flwyddyn.

Meddai’r grŵp bod ‘Gwneud Dim Byd yn gân berffaith ar gyfer yr haf gan ei bod hi ychydig yn ysgafnach na chaneuon blaenorol Rifleros, gyda theimlad ymlaciol a geiriau sy’n annog y gwrandawyr i gael “jyst chill’”.