Rhys Gwynfor nôl yn y Stiwdio

Bu Rhys Gwynfor nôl yn y stiwdio wythnos diwetha, am y tro cyntaf ers rhyddhau dwy gân , sef ‘Colli’n ffordd’ a ‘Bore Sul’, ar albwm aml-gyfrannog Sain, ‘Sesiynau Sain’, a ryddhawyd fis Mehefin llynedd.

Yn stiwdio Drwm, Llanllyfni y bu Rhys yn recordio’r tro hwn gydag Osian Williams ac Ifan Jones, sef y ddau sy’n rhedeg y stiwdio a dau sy’n gyfarwydd â gweithio gyda Rhys – roedd y tri yn aelodau o Jessop a’r Sgweiri a ddaeth i’r brig yn rhyw gystadleuaeth i sgwennu cân ar S4C rhywdro (mae enw’r rhaglen felltigedig honno wedi’i wahardd o HQ Y Selar).

“Penwythnos prysur yn recordio cân newydd @RhysGwynfor. Pwy arall allith sgwennu cân sy’n mynd o synth pop meddal i glam rock o fewn 4 munud a hanner?” meddai Drwm ar eu ffrwd Twitter.

Bydd sengl newydd Rhys yn cael ei rhyddhau ar label Ywain Gwynedd, sef Recordiau Côsh yn fuan yn ôl pob tebyg.

Dyma’r gân ‘Cwmni Gwell’ a ddaeth i’r golwg gan Rhys rhyw flwyddyn nôl: