Mae Fleur de Lys wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi ymuno â label Recordiau Côsh, ac y byddan nhw’n rhyddhau sengl ar y label hwnnw cyn diwedd mis Tachwedd.
Bydd y sengl newydd yn cael ei rhyddhau ar ddydd Gwener 30 Tachwedd.
‘Sbectol’ ydy enw’r sengl gyntaf i Fleur de Lys ei rhyddhau ers dros flwyddyn, ac mae’n debyg y gallwn ddisgwyl mwy o gynnyrch gan y band poblogaidd yn y dyfodol gweddol agos. Mae gan y grŵp albwm cyfan wedi’i ysgrifennu, a dros ei hanner eisoes wedi’i recordio eisoes.
Label i godi momentwm
Dros y tair blynedd diwethaf mae’r grŵp o Ynys Môn wedi datblygu’n gyflym i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru. Maent eisoes wedi rhyddhau dau EP llwyddiannus sef ‘Bywyd Braf’ yn 2015 a ‘Drysa’ yn 2016.
Roedden nhw’n un o artistiaid cynllun Gorwelion y BBC a Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2016, a’r profiad hwnnw’n un gwerthfawr yn ôl y band, ond maen nhw’n cydnabod bod cynnal momentwm ar ôl hynny wedi bod yn anodd.
Rhan o’r broblem oedd diffyg label i’w cefnogi, a dyna’r rheswm dros sefydlu perthynas gyda Recordiau Côsh.
“Roedd y penderfyniad i gymryd y band ymlaen i’r label yn un hawdd….” meddai Rheolwr Recordiau Côsh, Yws Gwynedd.
“….gan fy mod yn ddigon lwcus i fod wedi clywed peth o’r deunydd newydd gan Rich [Roberts] yn Stiwdio Ferlas cyn i’r band holi am y bosibiliad o ryddhau’r stwff.”
Mae Fleur de Lys wedi parhau i weithio gyda Rich Roberts fel cynhyrchydd ar gyfer y deunydd newydd, ac mae ‘Sbectol’ yn adlewyrchu egni a bywiogrwydd gweddill yr albwm yn ôl yr aelodau.
Bydd perfformiad byw nesaf Fleur De Lys yn Seremoni Goleuadau Nadolig Llangefni ar y 7 Rhagfyr.