Dau bwt o newyddion difyr o gyfeiriad label Sbrigyn Ymborth dros y dyddiau diwethaf…
Y cyhoeddiad cyntaf oedd eu bod nhw’n lansio label recordiau newydd sbon o’r enw Recordiau Erwydd. Bydd y label newydd yn arbenigo mewn cerddoriaeth acwstig, werin, traddodiadol a gwreiddiol.
Yr ail gyhoeddiad oedd eu bod nhw’n paratoi i ryddhau albwm cyntaf y label newydd, a hwnnw’n gasgliad diweddaraf un o gerddorion gwerin amlycaf Cymru ar hyn o bryd, sef Gwilym Bowen Rhys.
Detholiad o Hen Faledi ydy enw casgliad newydd y cerddor, ac mae’n ffrwyth ymchwil Gwilym ac yn record gyntaf mewn cyfres.
Wedi pori drwy archifau ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol, mae Gwilym wedi darganfod nifer o berlau, a’u cyflwyno yma yn ei arddull unigryw ei hun – rhai ohonynt erioed wedi’u recordio o’r blaen! Recordiwyd y casgliad mewn cwta dair awr (gan cynnwys cinio), gydag un meicroffon yn syth ar dâp chwarter modfedd.
Recordiwyd y cyfan yn Stiwdio Sain, Llandwrog ar 9 Mawrth 2018 a rheolwr label Sbrigyn Ymborth, Aled Wyn Hughes oedd yn gyfrifol am y cynhyrchu.
Bu cwmni cynhyrchu Amcan, sef Dafydd Hughes, brawd Aled, yno yn dogfennu’r cyfan, a bydd ffilm fer i gyd-fynd a’r record.
Er mai ym mis Medi mae’r casgliad allan yn swyddogol, bydd nifer cyfyngedig o gopïau ar gael ym mherfformiadau byw Gwilym dros yr haf, ac mae modd gwrando ar y traciau ar safle Bandcamp Gwilym ar hyn o bryd.
Roedd y penwythnos diwethaf yn un prysur i Gwilym wrth iddo berfformio mewn dwy ŵyl ddydd Sadwrn, sef Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin a Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog.
Gigs Gwilym Bowen Rhys
20-21/7 – Sesiwn Fawr Dolgellau
4-8/8 – Gwyl Lorient, Llydaw
17/8 – Ty Glyndwr, Caernarfon
23/8 – Gwyl Edeirnion, Gwesty Owain Glyndwr, Corwen
26/8 – Tafarn y Fic, Llithfaen