Sengl ac albwm ar y ffordd gan Jaffro

Bydd y cerddor eclectig o’r Gorllewin, Jaffro, yn rhyddhau sengl gyda label Recordiau Libertino cyn diwedd mis Tachwedd.

‘Mwy Mewn Meddwl’ ydy enw’r sengl, ac mae eisoes wedi’i lwytho i safle Soundcloud Recordiau Libertino.

Jaffro ydy prosiect cerddorol Wil Pritchard, a ddaw’n wreiddiol o Gaerfyrddin ond sydd bellach yn byw yn Llundain. Mae Wil yn astudio cerddoriaeth yn y Brifysgol ar hyn o bryd ac yn recordio popeth ei hun.

Mae Jaffro yn gigio ers peth amser, ac mae ei wyneb yn un cyfarwydd yn lleoliad cerddoriaeth amlycaf Caerfyrddin, Y Parrot.

Teg dweud bod ei gerddoriaeth yn eclectig , ac mae wedi dwyn dylanwad o waith disgo amrwd Arthur Russell a chyfansoddi avant-garde art pop Brian Eno  ymysg eraill. Does dim dwywaith fod ei sŵn yn unigryw iawn, yn enwedig yn y Gymraeg.

Albwm cyn diwedd y flwyddyn

Mae Jaffro eisoes wedi bod yn cydweithio gyda Libertino, gan ryddhau un gân gyda’r label, sef ‘Rhifyn Di-Dda’, fel rhan o’r casgliad aml-gyfrannog ‘I’r Gofod a Byth yn Ôl’ a gyhoeddwyd gan y label llynedd.

Bu iddo hefyd ryddhau albwm o’r enw ‘Idea’ yn annibynnol yn Awst 2017 oedd yn cynnwys traciau Saesneg yn bennaf, ond ambell gân Gymraeg hefyd, gan gynnwys ‘Rhifyn Di-Dda.’ Gallwch wrando ar yr albwm, a’i lawr lwytho’n ddigidol, ar safle Bandcamp Jaffro.

Y newyddion da pellach ydy mai dim ond tamaid i aros pryd ydy ‘Mwy Mewn Meddwl’ gan bod albwm llawn cyntaf Jaffro ar y ffordd cyn diwedd y flwyddyn. Enw’r albwm newydd fydd Mwy.

“Fi wedi bod â diddordeb mewn perfformio â chyfansoddi ers yn blentyn…” meddai Jaffro wrth sgwrsio gydag Y Selar.

“…a nes i ddechrau perfformio a rhyddhau dan yr enw Jaffro tua 2013.”

“Ma’r sengl newydd yn ddechrau ar gyfeiriad electronig i’r prosiect. Mae’n gyferbyniad i fy albwm acwstig, Idea, llynedd.”