Sengl ac albwm ar y ffordd gan Wigwam

Rydan ni’n hoff iawn o Wigwam yma yn Y Selar, ac yn gyffrous iawn i glywed bod y grŵp ifanc o Gaerdydd yn  rhyddhau eu sengl cyntaf heddiw.

‘Mynd a Dod’ ydy enw trac cyntaf y grŵp i gael ei ryddhau’n swyddogol, ac y newyddion gwych pellach ydy fod y sengl yn damaid i aros pryd ar gyfer albwm cyfan gan y grŵp fydd allan yn ddiweddarach yn yr haf.

Mae aelodau Wigwam i gyd yn ddisgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Plasmawr yn y brifddinas ar hyn o bryd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio’n agos gyda Mei Gwynedd ar y cynnyrch newydd.

Mei sydd wedi recordio a chynhyrchu’r sengl ac albwm yn ei stiwdio, Seindon yn y Tyllgoed.

Nid albwm cyffredin…

Cofiwch chi, nid albwm cyffredin fydd record hir gyntaf Wigwam, gan ei fod yn y ran o brosiect ehangach gyda’r ysgol.

Mae Cyngor y Celfyddydau wedi noddi disgyblion Ysgol Plasmawr i ysgrifennu sioe arbennig i’w pherfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni, ac mae eu cyd-ddisgyblion wedi gofyn i Wigwam greu’r trac sain ar gyfer y sioe.

Ac mae’r band wedi manteisio ar y cyfle i recordio albwm i gyd-fynd â’r prosiect, sy’n cynnwys 9 trac gwreiddiol.

Dechreuodd y gwaith recordio yn ystod gwyliau’r Pasg eleni, ac mae’r grŵp wedi bod mynd a dod (…sori, methu helpu hona) at Mei yn y stiwdio dros y misoedd diwethaf.

Steddfod brysur yn y ddinas

Mae’r flwyddyn brysur i Wigwam gyda’r rhan fwyaf o’r aelodau newydd gwblhau eu arholiadau Lefel A, a’r grŵp hefyd wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Wigwam hefyd yn perfformio ar nos Sul yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghlwb Ifor Bach, gan gefnogi tri band arall o’r brifddinas – Breichiau Hir, Cadno a Hyll.

Bu Y Selar yn sgwrsio gydag Elis o’r band yn ddiweddar ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd…

Grêt i weld Wigwam yn Steddfod yr Urdd ddydd Gwener – rili wedi dod mlaen yn dda fel band ers iddyn nhw chwarae yn Steddfod llynedd. Gallwch eu dal nhw’n Gig Nos Ffiliffest nos Sadwrn nesaf – mynd i fod yn un dda!

Posted by Y Selar on Sunday, 3 June 2018