Sengl ac albym newydd Mei Gwynedd

Dyna chi foi prysur ydy Mei Gwynedd.

Nid yn unig ei fod o’n brysur yn gweithio gydag artistiaid ei label JigCal – rhai o enwau ifanc mwyaf cyffrous y sin gan gynnwys Mellt, Cadno a Hyll – ond mae o hefyd wedi bod yn brysur yn recordio ei albwm unigol cyntaf.

Daeth y newyddion i glustiau Y Selar wythnos y bydd cyn aelod Big Leaves a Sibrydion yn rhyddhau’r record hir, Glas, ar ei label ei hun ar 29 Mehefin.

Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Mei ei hun yng Nghaerdydd dros gyfnod o flwyddyn, ac yn ymddangos ar y record hefyd mae Tim Robinson ar y dryms, Elin Fflur yn canu, Gwilym Bowen Rhys yn canu, Euron ‘Jos’ Jones ar y gitâr bedal ddur, Gareth Thorington ar y piano, ac yng ngeiriau Mei “sawl ffrind arall ar y trombone, tuba ac unrhyw un oedd yn galw i fewn i’r stiwdio. Mae hi wedi bod yn braf cydweithio gyda cherddorion gwych dwi’n eu hedmygu.”

“Fe gychwynnodd yr holl beth gyda gwneud sesiwn Sbardun i Radio Cymru – ac mae’r gân ‘Cwm Ieuenctid’ ar yr albwm” eglurodd Mei.

“Ond wrth ysgrifennu mwy a recordio dwi’n teimlo ei bod yn albwm lle dwi’n mynd yn ôl at fy ngwreiddiau a’r hyn dwi yn ei garu mewn cerddoriaeth – ychydig o ganu gwlad, blues ac alawon dwi’n gobeithio sydd yn gofiadwy.

“Mi sylweddolais hefyd mod i wedi byw yng Nghaerdydd yn hirach na’m mhlentyndod yn y gogledd felly mae elfen o hiraeth am y mynyddoedd a’r awyr iach yna hefyd.”

Ond, yn hytrach na ‘glas’ yn yr ystyr cerddorol o ganu y blues, ‘glas’ arall sydd wedi ysbrydoli teitl yr albwm.

“Mae’r gair wedi ei ddefnyddio dros y canrifoedd fel gair i gynrychioli ffresni a rhywbeth newydd – gymaint os nad mwy na marwolaeth a llwydni.

“A dyna’r pynciau sy’n rhedeg drwy’r albwm – syrthio mewn ac allan o gariad, y rhyfeddod o fyw ar y ddaear yn hapus heb wybod beth ddaw yfory.”

A’r newyddion cyffrous pellach ydy bod tamaid i aros pryd nes yr albwm allan fory ar ffurf y sengl newydd ‘Tra Fyddaf Fyw’. Da rŵan.