Mae sengl ‘Gwenwyn’ gan Alffa wedi ei ddefnyddio fel cerddoriaeth gefndir ar gyfer pecyn fideo newydd sydd wedi’i greu a chyhoeddi gan Gymdeithas bêl-droed Cymru.
Mae’r pecyn fideo newydd yn crynhoi uchafbwyntiau gemau tîm pêl-droed dynion Cymru yn eu gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc wythnos diwethaf.
Roedd tîm Ryan Giggs yn fuddugol o 4-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd, ond colli o 2-0 oedd y canlyniad oddi-cartref yn erbyn Denmarc.
Dyma’r ail dro i’r Gymdeithas bêl-droed ddefnyddio cân gan artist Cymraeg, ac un o artistiaid cynllun Gorwelion y BBC yn benodol, fel cerddoriaeth gefndirol ar gyfer pecyn fideo o’r fath.
Nôl ym mis Mehefin fe ddefnyddiwyd y gân ‘Fel i Fod’ gan Adwaith ar fideo i ddathlu campau tîm pêl-droed merched Cymru.
Mae’r fideo newydd sy’n cynnwys cân Alffa yn cael ei rannu’n helaeth ar gyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas Bêl-droed ac yn y 24 awr cyntaf ers ei gyhoeddi roedd y fideo wedi’i wylio dros 5000 o weithiau ar Twitter yn unig. Roedd y fideo wedi’i weld dros 5000 o weithiau ar Facebook hefyd dros y 24 awr cyntaf.
Mae’r sylw a geir yn siŵr o olygu bod cerddoriaeth Alffa’n cyrraedd cynulleidfa fawr newydd.