Mae Alys Williams wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar label Recordiau Côsh, sef ‘Dim Ond’
Rhyddhawyd y sengl yn swyddogol ddydd Gwener (2 Tachwedd), ac nid dyma’r unig ddigwyddiad arwyddocaol i’r artist o Gaernarfon yn ystod mis Tachwedd. Bydd Alys hefyd yn perfformio mewn cyngerdd arbennig gyda cherddorfa lawn yn Pontio, Bangor ar 24 Tachwedd.
Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, ers dod i’r amlwg ar raglen The Voice ar BBC 1 yn 2013, mae Alys wedi bod yn brysur iawn yn perfformio a chyd-ysgrifennu gyda rhai o artistiaid amlycaf y sin yng Nghymru.
Er iddi greu fersiynau arbennig ei hun o sawl clasur, mae ‘Dim Ond’ yn arwyddocaol fel ei chyfansoddiad unigol cyntaf i gael ei rhyddhau i’r byd.
“Tydi’r gair ‘unigryw’ ddim yn ddigonol i gyfleu pa mor wahanol ydi’r trac yma i unrhyw beth mae Alys wedi ei ganu’n y gorffennol” meddai datganiad Recordiau Côsh.
“Mae’r cyfuniad o’i chyfansoddi anghonfensiynol, ei defnydd o lais i ffurfio cordiau a chnawd y gân, ynghyd a chynhyrchu slic a chyfredol Rich Roberts, yn llwyddo i dorri tir newydd a chynnig rhywbeth hollol wahanol i’r glust.”
Mae gwaith celf y sengl hefyd yn unigryw, gan ei fod yn cynnwys un o luniau yr artist Lisa Eurgain Taylor.
Mae gwaith Lisa wedi ei arddangos mewn sawl galeri ers iddi raddio o goleg Celf Wimbledon yn 2013 a bydd arddangosfa o’i gwaith yn Storiel Bangor yn fuan yn 2019.
Bydd ‘Dim Ond’ ymysg y llond llaw o ganeuon newydd y bydd Alys yn eu canu yn Pontio ddiwedd y mis mewn cyngerdd arbennig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC .
Mae’r cyfansoddiadau ar gyfer y gerddorfa wedi eu hysgrifennu gan Gruff Ab Arwel sy’n gyfarwydd i ni fel Bitw ac aelod o Eitha Tal Ffranco ac Y Niwl. Mae Gruff wedi paratoi darnau tebyg ar gyfer Gruff Rhys yn y gorffennol hefyd.
Bydd hefyd cyfle i glywed y clasuron arferol sydd wedi bod yn amlwg yn setiau byw Alys dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ei fersiwn anhygoel o’r gân ‘Pan Fo’r Nos yn Hir’ gan Ryan a Ronnie.