Sengl ar y ffordd gan Carw

Da oedd clywed y newyddion bod y cerddor pop electroneg, Carw, yn rhyddhau ei sengl newydd ‘Lovers’ 10 Awst.

Prosiect Owain Griffiths, gynt o Violas, ydy Carw ac mae’r sengl newydd yn dilyn y sengl ‘Lanterns’ a ryddhawyd ganddo nôl ym mis Mai eleni. Mae’r sengl yma, fel y ddiwethaf, allan ar label Recordiau BLINC a bydd ar gael i’w lawr lwytho’n unig.

Dywed Blinc bod Carw yn ‘agor y drws ar brosiect hunan-ysgogedig ac yn bennaf hunan-gynhyrchiedig, sydd yn dwyn dylanwad gan bop electronaidd yr 1980au, gitarau cerddorfaol Simon Raymonde a Durruti Column, a churiadau machlud haul Balearic House.’

Wedi ei glymu yng nghymuned cerddorol y brif ddinas, mae gweledigaeth greadigol Carw wedi peri iddo ddewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.

Mae Recordiau BLINC hefyd wedi datgelu y byddan nhw’n rhyddhau albwm cyntaf Carw yn Hydref 2018. Mae’r label wedi rhyddhau cynnyrch blaenorol gan HMS Morris, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2017, a Rogue Jones.

Dyma’r sengl ddiwethaf, ‘Lanterns’: