Mae’r artist ifanc o Ddolgellau, Lewys, yn paratoi i ryddhau sengl newydd ar label Recordiau Côsh.
‘Gwres’ fydd ail sengl y cerddor 17 mlwydd oed yn dilyn ‘Yn Fy Mhen’ a ryddhawyd gan Côsh ym mis Chwefror eleni.
Rhyddhawyd fideo i gyd-fynd ag ‘Yn Fy Mhen’ gan Ochr 1 / HANSH hefyd, a dyma fo i’ch atgoffa chi…
Recordiwyd y sengl newydd yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts nôl adeg y Pasg eleni. Bella Sanderson sy’n gyfrifol am gwaith celf trawiadol.
13 Gorffennaf ydy dyddiad rhyddhau swyddogol y sengl, a bydd ar gael i’w ffrydio yn y mannau arferol.
Bydd modd ei chlywed am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Huw Stephens heno, 5 Mehefin – cofiwch diwnio mewn.
Yn ôl Lewys, bydd yn chwarae’r trac yn fyw am y tro cyntaf yn ei gig yn Sesiwn Fawr Dolgellau (20-22 Gorffennaf), sef gig cyntaf Lewys gyda’i fand newydd.
“Mae ‘na elfennau ohoni’n debyg i ‘Yn Fy Mhen’…” meddai Lewys wrth sgwrsio â’r Selar am y sengl newydd.
“…ond mae hi’n gân hapusach, mwy hafaidd yn fy marn i.
“A dweud y gwir, ‘mwy positif’ ydy’r ffordd o’i ddweud o, yn hytrach na hapusach dwi’n meddwl.”
Os ydach chi isho dysgu mwy am Lewys, wel fo ydy artist eitem ‘Ti di clywed…’ rhifyn diweddaraf Y Selar: