Sengl ddwbl Adwaith allan wythnos nesaf

Newyddion cyffrous o gyfeiriad Caerfyrddin, sef bod sengl ddwbl newydd ar y ffordd gan Adwaith ar label Libertino.

Mewn cyhoeddiad gan Pyst wythnos yma, cyhoeddwyd bod y triawd “ôl-pync” yn rhyddhau eu sengl dwbl newydd sef ‘Fel i Fod / Newid’ ar 16 Chwefror.

Dywed Pyst bod ‘Fel i Fod’ yn creu “cysylltiad emosiynol uniongyrchol â’r gwrandäwr” a bod y gân yn un gignoeth am ansicrwydd ac ofnau bywyd ar drothwy cyfnod newydd.

“Ysgrifennais ‘Fel i Fod’ ar adeg yn fy mywyd lle roedd llawer o bethau yn newid, roedd popeth yn newydd ac yn ofnus i mi” meddai Hollie Singer, prif ganwr Adwaith.

“Mae’r gân yn ymwneud ag ofn. Pryder o fod yn sownd. Ofn o fod yn gyfforddus yn rhywle, dwi ddim yn meddwl fy mod yn perthyn. Mae’n ymwneud â sylweddoli y byddwch yn iawn hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo’n iawn drwy’r amser”.

Bydd yn ddifyr clywed sut mae sŵn y band wedi datblygu ar gyfer y caneuon newydd, gyda thipyn o wahaniaeth yn ‘Haf’ a ryddhawyd tua blwyddyn yn ôl o’i gymharu â ‘Lipstick Coch’ a ‘Femme’ ddaeth allan rhyw chwe mis yn ôl.

Caiff ‘Fel i Fod’ ei ddisgrifio fel cân dyner, ond llawn hyder wrth i’r gân adeiladu gan ddangos aeddfedrwydd cerddorol sy’n cael ei efelychu gan gordiau ôl-pyncaidd pwerus ‘Newid’. Mae ‘Newid’ yn “anthem i’r genhedlaeth newydd” sef cenhedlaeth sydd wedi’i thwyllo a’i hanwybyddu gan oes ddiflas, hunanol Brexit a Trump.

Cafodd y sengl ddwbl ei chwarae am y tro cyntaf ar sioe frecwast Huw Stephens bore ddoe (Gwener 9 Chwefror), ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi glywed y caneuon yn set Adwaith yng Ngwobrau’r Selar nos Sadwrn nesaf, 17 Chwefror.