Bydd y grŵp roc o Bontypridd, Chroma, yn rhyddhau sengl ddwbl newydd gyda label Popty Ping ar 9 Tachwedd.
Mae Chroma wedi mynd o nerth i nerth ers cipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru yn haf 2016, gan gigio’n rheolaidd a rhyddhau eu EP cyntaf yn y flwyddyn honno hefyd.
Teg dweud bod eu dilyniant wedi tyfu’n gyson ers hynny hefyd, a bydd y newyddion am y sengl ddwbl newydd yn siŵr o gyffroi y ffans.
Newyddion fydd yn eu cyffroi hyd yn oed yn fwy ydy bod y sengl i’w ryddhau ar fformat feinyl, a hwnnw’n feinyl lliw porffor nifer cyfyngedig. Mmmm, feinyl…rydan ni’n hoffi feinyl, ac yn enwedig feinyl lliw!
Yn ôl y label, maen nhw wedi gwasgu 500 copi o’r sengl, a ni fydd rhagor yn cael eu gwasgu. Bydd y recordiau i gyd wedi eu rhifo’n unigol â llaw.
Gwahanol i fandiau eraill
Mae un cân Gymraeg, ac un Saesneg ar y record newydd – ‘Girls Talk’ ydy enw’r trac Saesneg, a ‘Nos Da Susanna’ ydy’r trac Cymraeg.
Mae’r ddau drac wedi eu peiriannu, recordio, cymysgu a chynhyrchu gan Charlie Francis, yn Musicbox, Caerdydd. Mae Francis yn adnabyddus am ei waith blaenorol gyda REM, Future of the Left a Manic Street Preachers ymysg eraill. Ariannwyd y sesiynau gan Gronfa Lansio Gorwelion.
Yn ôl y label, roedden nhw’n awyddus iawn i weithio gyda Chroma gan eu bod nhw’n wahanol iawn i fandiau eraill o Gymru ar hyn o bryd.
Cafodd y fargen ei tharo rhwng y label a’r band yn dilyn perfformiad Chroma yng Ngorsaf Ganolog Wrecsam yn ystod gŵyl Focus Wales yn gynharach eleni.
Yn ôl y label, y trac ‘Nos Da Susanna’ ydy’r trac Cymraeg cyntaf iddyn nhw ei ryddhau – y cyntaf o nifer gobeithio.
Mae modd rhag-archebu’r sengl ddwbl newydd ar safle Bandcamp label Popty Ping nawr.
Bydd cyfle i weld Chroma yn perfformio fel rhan o ddathliadau pen-blwydd lleoliad amlwg Gwdihŵ yng Nghaerdydd ar 15 Tachwedd.