Sengl ddwbl newydd gan Los Blancos

Daeth newyddion cyffrous i glustiau Y Selar o’r gorllewin yn ddiweddar pan glywsom ni bod sengl ddwbl newydd ar y ffordd gan yr ardderchog Los Blancos.

Un o draciau’r sengl ddwbl fydd fersiwn newydd o ‘Clarach’ , sef y trac a ddenodd sylw Y Selar i’r grŵp gyntaf reit nôl ym Medi 2016. Yr ail drac ydy ‘Cadi’.

“Amrwd, barddonol, pync, perthnasol a llon  – dyna Los Blancos. A dyna a glywn ymhob nodyn blêr ar eu sengl dwbwl newydd Clarach / Cadi” meddai Recordiau Libertino, label Los Blancos, am y sengl.

Mae’n braf gweld newyddion da am gerddoriaeth Los Blancos, gan eu bod wedi cael tipyn o anffawd yn ddiweddar wrth golli’r mwyafrif o’u halbwm cyntaf oedd wedi ei recordio oherwydd llifogydd a chyfrifiaduron yn marw.

Bu’n rhaid i’r grŵp ail-recordio popeth mewn un prynhawn “chwyslyd, glawog” gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins (SFA, Cate Le Bon, H Hawkline, Gulp ayb) mewn hen ganolfan gymunedol gaeedig yng Nghaerdydd, yn ôl y datganiad gan PYST.

Yn ôl Libertino mae ‘Cadi / Clarach’ yn arddangos y “cymhlethdod emosiynol” sydd wrth galon caneuon Los Blancos. Chwareus ac uchel yn aml ond ag ochr dywyll bob tro.

“Mae ‘Cadi’ wedi ei chyflwyno i gi Osian, ein gitarydd” meddai Dewi, basydd Los Blancos.

“Dylanwad ei gyfansoddi a glywn drwy sain y gitars egnïol sy’n cyferbynnu yn llwyr â thema sensitif y gân o geisio cysur gyda rhywun tra mae popeth arall yn disgyn ar chwâl. Yn ysgafn a hwyliog, mae yna hefyd ddyfnder sydd yn graidd i ethos y band.”

Traeth ar yr arfordir i’r gogledd o Aberystwyth yw cefndir y gân emosiynol ‘Clarach’ am “golli cariad, colli’r haf a cholli diniweidrwydd.”

Bydd y sengl ddwbl allan 22 Mehefin a hynny’n  ddigidol ar label Libertino.

Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i ddal fyny gyda Dewi a Gwyn o’r grŵp yn Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf, ac fe wnaethon ni eu holi rhywfaint am y sengl a’r albwm sydd ar y gweill…