Sengl gyntaf Betsan allan ddydd Gwener

Bydd cantores sy’n gyfarwydd fel aelod o nifer o fandiau amlwg, ynghyd â bod yn ffotograffydd Y Selar,  yn rhyddhau ei sengl unigol gyntaf ddydd Gwener yma, 14 Rhagfyr!

Betsan Haf Evans, sy’n ffotograffydd dan yr enw Celf Calon, ydy’r ‘Betsan’ dan sylw, a bydd yn ymuno â’r haid o artistiaid Cymraeg sy’n rhyddhau sengl Nadolig eleni wrth ryddhau’r trac ‘Cofia’ ar label Recordiau Sienco.

Bydd llais unigryw Betsan yn gyfarwydd – dros y blynyddoedd mae wedi ymddangos ar glasuron hip-hop bandiau fel Genod Droog a Freshold, gan hefyd fod yn brif leisydd bandiau funk/soul Kookamunga ac Y Gwdihws. Cyn hynny dechreuodd ei gyrfa yn chwarae’r drymiau ac offerynnau taro i Alcatraz, yna gydag Y Panics a Daniel Lloyd a Mr Pinc.

Yn fwy diweddar, cyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru yn 2016 gyda’i chân serch fachog i͛’w gwraig, ‘Eleri’.

Nawr mae am fentro ar ei phen ei hun am y tro cyntaf gyda chân wahanol ei sain, ar ffurf y sengl Nadolig ‘Cofia’.

‘Sengl Nadolig berffaith’

Mae’r trac newydd yn cael eu disgrifio fel y ’sengl Nadolig berffaith’, yn llawn nostalgia, cysur a chynhesrwydd yr ŵyl. Mae Betsan yn paentio llun hiraethus a pherffaith o ddiwrnodau Nadolig ei phlentyndod trwy’r offeryniaeth llawn a chyfoethog.

Steffan Rhys Williams sydd wedi cynhyrchu’r sengl, ac mae tad Betsan, y cerddor jazz Cenfyn Evans, yn ychwanegu y corn ffliwgal i’r trac. Bydd Cenfyn yn gyfarwydd i rai fel aelod o’r grŵp Cymraeg hynod o’r 1960au Y Dyniadol Ynfyd Hirfelyn Tesog.

Recordiwyd y gân yn stiwdio Steffan Rhys Williams yng Nghaerfyrddin ddiwedd mis Tachwedd eleni.

“Mae’r gân am gofio yn ôl i’r teimlad o gyffro hudolus chi’n cael pan yn blentyn yn ystod yr Ŵyl” meddai Betsan.

“Mae e fel petai fy mam yn canu fi i gysgu ar noswyl Nadolig gyda’r paratoadau yn mynd ymlaen yn ddistaw bach yn y cefndir.”

Dywedodd Betsan wrth Y Selar ei bod yn awyddus i recordio a rhyddhau mwy o gynnyrch unigol, a’i bod yn gobeithio rhyddhau albwm neu gasgliad cyn troi’n 40 oed.

Mae Betsan yn parhau i ganu gyda’r Gwdihws, ond mae ganddi brosiect cerddorol cyffrous arall ar y gweill yn 2019 wrth iddi ymuno â Neil Rosser i ffurfio band rocabili newydd.