Sengl Nadolig Ail Symudiad

Bydd Ail Symudiad yn rhyddhau sengl Nadolig arbennig ar label Recordiau Fflach fory, ar ddydd Gwener 7 Rhagfyr.

‘A Llawen Bydd Nadolig’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp bytholwyrdd o Aberteifi, ac mae’n coroni blwyddyn brysur wrth iddynt nodi 40 mlynedd ers ffurfio ym 1978.

Er bod y grŵp wedi bod yn dathlu pen-blwydd o bwys, ar ôl degawdau o gigio a rhyddhau cynnyrch yn rheolaidd,  dyma’r tro cyntaf iddynt fentro recordio cân Nadolig.

Er hynny, nid yw’r gân yn un newydd sbon chwaith gan i fersiwn ohoni gael ei rhyddhau dan yr enw ‘A Hapus Bydd Dy Fywyd’ ar EP a gyhoeddwyd yn 2012. O dipyn i beth, roedd y record honno i fod i’w rhyddhau erbyn Nadolig 2011, gyda theitl Nadoligaidd iddi, ond methwyd y dedlein a bu’n rhaid newydd y cynllun!

Mae’r fersiwn newydd o’r gân yn defnyddio mwy neu lai yr un dôn ag ‘A Hapus Bydd Dy Fywyd’, ond mae’r geiriau’n hollol wahanol.

Neges ddifrifol

Mae’r grŵp yn adnabyddus am eu hiwmor ffraeth, ac mae caneuon Nadolig yn aml yn rai â thafod mewn boch, ond mae neges ddifrifol i ‘A Llawen Bydd Nadolig’ gan fod y geiriau’n sôn am y rhieny sy’n dioddef adeg Nadolig – y bobl llai ariannog, y rhai sy’n byw ar y stryd, y di-waith a’r rhai sy’n unig.

Wrth ddathlu eu pen-blwydd yn ddeugain mae Ail Symudiad wedi perfformio’n rheolaidd yn  ystod 2018 gan gynnwys gigs yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Nôl a Mla’n, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a Chlwb Canol Dre Caernarfon.

Bu iddynt hefyd ryddhau eu halbwm diweddaraf o ganeuon gwreiddiol dros yr haf dan y teitl Y Man Hudol.