Y gantores o Sir Benfro, Lowri Evans, ydy’r cerddor diweddaraf i neidio ar y goetsh Nadoligaidd eleni, a chyhoeddi y bydd yn rhyddhau sengl Nadolig.
Bydd ‘Amser Dwl o’r Flwyddyn / Crazy Time of Year’ yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Shimi ddydd Gwener yma, 14 Rhagfyr.
Cofiwch chi, mae Lowi’n hen gyfarwydd â rhyddhau caneuon Nadolig, ac nid dyma’r gân Nadolig gyntaf i Lowri ryddhau. Yn wir, hon fydd y bedwaredd cân Nadoligaidd iddi ysgrifennu ar y cyd â Lee Mason, ac fe’i hysbrydolwyd gan yr arbenigwr ariannol Martin Lewis.
Mae teitl y trac newydd yn awgrym o neges y gân, sef bod pobl yn gwario gormod o arian ar anrhegion di-angen dros yr ŵyl. C
red Lowri ydy bod pobl dan ormod o bwysau i brynu anrhegion, a bod hyn yn arwain at y straen yn dangos a’r ddyled yn codi.
“Mae’n hen bryd i siarad lan a rhoi gwybod i deulu a ffrindiau na allwch chi fforddio gwario cannoedd o bunnoedd arnynt eleni” meddai Lowri.
“Neges glir y sengl felly ydy peidiwch â chael eich dal lan yn y gwallgofrwydd o wario ar bobl, treuliwch eich amser gyda nhw, dim eich arian.”