Bydd Al Lewis a Kizzy Crawford yn rhyddhau eu sengl newydd ar y cyd, ‘Dianc o’r Diafol’, ddydd Gwener yma, 7 Medi.
Mae Al yn adnabyddus am ei hoffter o weithio ar y cyd ag artistiaid eraill ac mae pob un o’i albyms hyd yma wedi cynnwys deuawd gydag artist arall – ‘Gwenwyn’ gyda Meic Stevens; ‘Hafan’ gydag Elin Fflur; a ‘Heulwen o Hiraeth’ gyda Sarah Howells.
Bydd y sengl newydd yn cael ei chynnwys ar albwm nesaf Al, sef Pethe Bach Aur, fydd yn cael ei ryddhau ym mis Hydref eleni.
Dyma’r ail sengl o’r albwm newydd i gael ei rhyddhau yn dilyn deuawd arall ‘Pan Fyddai yn Simbabwe’ a recordiwyd gyda’r grŵp lleisiol Zim Voices.
Recordiwyd y sengl newydd yn rhannol yn stiwdio personol Kizzy Crawford yn ei chartref yn Aberafan, ac yn rhannol yn stiwdio Al yng Nghaerdydd, sef Stiwdio’r Bont. Mae’r ddau wedi cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am waith cynhyrchu’r trac yn ogystal.
“Nes i gysylltu efo Kizzy blwyddyn yn ôl erbyn hyn i weld os bydde awydd ganddi mewn cyd-gyfansoddi” meddai Al Lewis.
“’Dianc o’r Diafol’ oedd canlyniad y broses honno.”
Pob hwyl i Al hefyd wrth iddo baratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd ar 7 Hydref – llygad y teigr Al, llygad y teigr.