Sengl newydd ar y ffordd gan Accü

Bydd sengl newydd gan Accü yn cael ei rhyddhau ddydd Gwneer yma, 25 Mai.

‘Did You Count Your Eyes?’ fydd enw’r trac newydd a bydd yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Libertino.

Hwn yw’r trac cyntaf i gael ei rhyddhau oddi ar albwm cyntaf Accü, Echo The Red, fydd allan yn ddiweddarach yn yr haf eleni.

Prosiect diweddaraf Angharad Van Rijswijk ydy Accü. Bydd enw Angharad yn gyfarwydd i rai fel un hanner o’r grŵp Trwbador. Yr hanner arall oedd Owain Gwilym, ac fe greodd y ddeuawd gryn argraff yng Nghymru a thu hwnt rhwng tua 2010 a 2015.

Mae llais Angharad hefyd i’w glywed ar un o ganeuon y grŵp enwog Cornershop, sef ‘Every Year So Different’.

“Fe ysgrifennais y gytgan yn fy mhen rai blynyddoedd yn ôl” meddai Angharad wrth ddisgrifio ‘Did You Count Your Eyes’

“…a thros y blynyddoedd fe ddychwelodd yr alaw a’r geiriau i’m mhryfocio fel hwiangerdd anniddig tan y darllenais ‘Women Who Run With he Wolves’ gan Clarrisa Pinkola Estes.

“O ganlyniad fe ddarganfu yr hwiangerdd anniddig ei hoed aeddfedrwydd a ganwyd y gân yn un fenywaidd flin. Hwyrach taw eisiau gwylltio eraill ydw i.”

Gallwch wrando ar y sengl newydd isod: