Mae’r grŵp ifanc o’r gogs, Miskin, wedi datgelu i’r Selar bod sengl newydd sbon danlli ar y ffordd ganddynt, gyda bwriad i’w rhyddhau ar Soundcloud fis Mai.
Bydd aelodau Miskin yn gyfarwydd i nifer o ddarllenwyr, ond mae’r grŵp wedi dechrau o’r newydd yn 2018, wrth iddynt godi o lwch y grŵp Pyroclastig, a ddaeth i ben yn swyddogol ddiwedd 2017.
Bu iddynt lwytho trac i’w safle Soundcloud nôl ym mis Ionawr sef ‘Unwaith yn Ormod’.
Recordiwyd y gân newydd yn stiwdio Drwm, Llanllyfni gydag Osian Williams ac Ifan Jones.
Gellir dal Miskin yn cystadlu yn rhagbrawf Aberystwyth o Frwydr y Bandiau ar 20 Ebrill, gyda Mellt hefyd yn lansio eu halbwm newydd, ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’, fel rhan o’r gig.
Bydd Mari Mathias a Cyffion yn cystadlu gyda Miskin ar y noson am le yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd fis Awst.