Sengl newydd Breichiau Hir fis nesaf

Bydd Breichiau Hir yn rhyddhau sengl newydd ar label Recordiau Libertino fis nesaf, ar 12 Hydref.

‘Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun’ ydy enw sengl newydd y grŵp roc o Gaerdydd, ac yn ôl y label y trac hwn ydy’r adlewyrchiad gorau hyd yma o sŵn byw Breichiau Hir ar record – yn “ddigyfaddawd, uchel ac egnïol. Yn gerddorfa o gitars a dryms dyma ‘punk & roll’ ar ei orau.”

“Fe recordion ni ddwy neu dair pennill gyda Steffan yn canu ond doedden nhw byth yn swnio yn iawn rywsut” meddai’r band wrth ddisgrifio’r broses o ysgrifennu a recordio.

“O ganlyniad fe aeth Steffan yn rhwystredig tu hwnt a newid ei rannau yn llwyr i lefaru a gweiddi ei benillion.”

Dylanwadodd y rhwystredigaeth yma ar yr angst a glywir yn y penillion lle mae Steffan yn creu darlun o drafodaethau a glywodd ynghyd â’i feddyliau ei hun gan neidio o un thema i’r llall yn haniaethol.

“Ychydig o ‘mind-trip’ yw’r gân yn neidio yn ddigyfeiriad rhwng gwahanol feddyliau a sgyrsiau ond gyda gymaint o angst â phosibl, beth bynnag yw’r pwnc” meddai Steffan Dafydd, canwr y grŵp.

“Yn y gytgan dwi’n mwynhau buddugoliaeth bersonol boring a di-bwrpas, yn cadw pobol yn effro yn hwyr i’r nos gyda’m hunan-foddhad hunanol.”

Mae ‘Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun’ yn cael ei ddylanwadu a’i ysbrydoli gan ddynamics Slint, melodi pwerus The Hold Steady a ymosodiad digyfaddawd Future of The Left a Big Black.

Mae Ochr 1 hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl newydd, a ryddhawyd ar eu cyfryngau ddydd Gwener.