Sengl newydd gan Twinfield

Mae’r artist electroneg Twinfield wedi cyhoeddi ei sengl ddiweddaraf, fydd allan ar label annibynnol Recordiau Neb.

‘Tan’ ydy enw’r gân newydd, ac mae’n nodweddiadol o sŵn electro-pop bachog a chyfarwydd Twinfield.

Dyma gynnyrch diweddaraf Twinfield yn dilyn dwy sengl a ryddhawyd ganddo ddechrau’r flwyddyn. Rhyddhawyd y sengl ddwbl ‘Atgenhedlu’ a ‘Kim Kardashian’ ar fformat caset gan Recordiau Neb (NEB007) ym mis Mawrth eleni. Cyn hynny roedd wedi rhyddhau y gân ‘Siwrnai Saff’ fel rhan o gyfres Senglau Sain ar 16 Chwefror.

Cafwyd y cyfle cyntaf i glywed sengl ddiweddaraf Twinfield ar bodlediad diweddaraf ‘Dim Byd Gwell i Neud’ gan Recordiau Neb.

Roedd cyfle cyntaf i glywed sengl newydd Ani Glass, ‘Peirianwaith Perffaith’, sydd hefyd yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Neb, ar yr un podlediad.

Mae modd gwrando ar y podlediad hanner awr o hyd ar wefan Recordiau Neb nawr.

Mae’r sengl newydd wedi’i gyhoeddi ar safle Soundcloud Twinfield, a does dim manylion ar hyn o bryd ynglŷn â’r rhyddhau ar fformatau eraill.