Mae I Fight Lions wedi cyhoeddi wythnos diwethaf y byddant yn rhyddhau sengl newydd ‘Llwch ar yr Aelwyd’ ar 18 Mai, a hynny ar label Recordiau Côsh a Recordiau Syrcas.
Dyma’r ail sengl i’w rhyddhau oddi ar record hir newydd I Fight Lions fydd allan ddiweddarach yr haf yma.
Mae’r cyhoeddiad yma’n dilyn llwyddiant y trac ‘Calon Dan Glô’ a fu’n Drac yr Wythnos Radio Cymru rhai wythnosau yn ôl.
Cafodd ‘Llwch ar yr Aelwyd’ ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher diwethaf, 9 Mai.
Ymddangosodd y band yn ngŵyl Focus Wales dros y penwythnos hefyd gan ddenu torf dda i’w gwylio.
Dyma fideo’r ardderchog ‘Calon Dan Glô’ a gyhoeddwyd ychydig wythnosau nôl gan Ochr 1/Hansh: