Bydd y grŵp krautrock Ilu yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Libertino cyn y Nadolig.
Enw’r sengl newydd ydy ‘Jaanus’ ac fe’i rhyddheir yn ddigidol ar 14 Rhagfyr.
Hon fydd yr ail sengl i’w rhyddhau gan y grŵp dirgel ar label Libertino yn dilyn ‘Graffiti Hen Ewrop’ a ryddhawyd ddiwedd mis Gorffennaf.
Meddai Libertino am y sengl newydd:
‘Dan ddylanwad symudiadau llinellog ‘Faust IV’ gan arloeswyr Krautrock, Faust ynghyd â thonnau rhamantaidd New Wave â glywir o fewn ‘Systems of Romance’ gan Ultravox mae ail sengl Ilu ‘Jaanus’ yn dyner a beiddgar. Mae’r gerddoriaeth yn datgelu ei hun yn daclus o fewn fframwaith anghonfensiynol y gân sy’n cofleidio’r gwrndäwr gyda thristwch yr alaw.’
Yn ôl y band, mae ‘Jaanus’ yn ymdrin â “cholled a galar sy’n dwyn y geiriau sy’n disgrifio’ch teimladau. Mae ‘Jaanus’ yn gân am estyn dwylo a dod at ein gilydd. Mae’n gân am gariad sydd methu marw.”
Fel ‘Graffiti Hen Ewrop’ dechreuwyd ar y recordio yn Tallinn, Estonia a gorffennwyd y recordiad gan Tim Lewis (Spiritualized, Julian Cope, Coil) yn Aerial Studios yn Sir Gaerfyrddin.
Dyma ‘Jaanus’: