Sengl newydd Yr Eira allan fory

Bydd Yr Eira yn rhyddhau sengl newydd sbon ar label I KA CHING ddydd, Gwener 27 Ebrill.

I gydfynd â’r sengl, bydd fideo yn cael ei gyhoeddi ar sianel Facebook Hansh/Ochr 1.

‘Llyncu Dŵr’ yw enw’r trac newydd, a hon fydd y sengl gyntaf i ymddangos gan Yr Eira ers iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, sef Toddi, nôl ym mis Gorffennaf 2017.

“Mae ganddynt haf prysur o gigio o’u blaenau, a bydd y sengl newydd yn sicr o blesio eu ffans ledled Cymru a thu hwnt” meddai PYST a gyhoeddodd y newyddion ddiwedd wythnos diwethaf