Mae label Ankstmusik wedi cyhoeddi manylion rhyddhau senglau ac albwm newydd gan yr anfarwol Geraint Jarman.
Enw’r albwm newydd ydy Cariad Cwantwm, a dyma fydd ail ar bymtheg record hir Geraint Jarman.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar 27 Gorffennaf, ond cyn hynny gallwn ddisgwyl cwpl o senglau newydd gan un o hoelion wyth amlycaf cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Sengl ddwbl ‘Addewidion / O Fywyd Prin’ fydd y gyntaf o senglau’r albwm, a bydd yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener yma, 6 Gorffennaf.
Bydd ail sengl o’r casgliad, ‘Troedio’, yn cael ei rhyddhau ar yr un diwrnod a’r albwm, sef 27 Gorffennaf.
Dim ond reggae
Ffaith ddifyr am y casgliad newydd ydy bod Geraint, am y tro cyntaf yn ei yrfa, wedi penderfynu recordio albwm cyfan o draciau reggae yn unig. Bydd hynny’n dipyn os syndod i rai gan bod Jarman yn adnabyddus am ei diwns reggae, ond mewn gwirionedd mae wedi rhyddhau cymaint, os nad mwy o ganeuon roc dros y blynyddoedd.
Yn ôl y label, mae’r penderfyniad yma’n un amlwg i artist sydd wedi bod yn defnyddio riddmau reggae yn rheolaidd yn ei ganeuon i gyfleu negeseuon gwleidyddol, ysbrydol a pherthnasol i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru ers canol yr 1970au.
Mae’r ochr radical yma a’r awydd i ddefnyddio riddmau gwahanol i gario caneuon sy’n cyffwrdd ar broblemau ymwybyddiaeth gymdeithasol yn ein byd ni heddiw yn frith trwy gynnwys yr albwm newydd yn ôl Ankstmusik.
Mae caneuon fel ‘Colli dy Riddim’, ‘O Fywyd Prin’, ‘Byrgyr Mabinogi’, ‘Gwrthryfel’ a ‘Breuddwyd Chwyldroadol’ yn ymdrin yn uniongyrchol â chwestiynau mawr egsistential byw – ‘anodd symud efo’r bît, ar ôl colli dy riddim’ – mewn gwlad a chymdeithas ar drobwynt – ‘Canu mae y Cymry, yn y gwyll mewn ghetto rhydd’
Mae ochr mwy cymdeithasol, ysgafn, corfforol a chariadus diwylliant reggae hefyd i’w glywed ar y senglau ‘Addewidion’, sy’n nofio yn gariadus yn arddull lovers rock a ‘Troedio’, sengl sy’n “ypdêt lefel pafin” o’r hen glasur ‘Steddfod yn y Ddinas’, sy’n chwibanu’n llon drwy strydoedd Caerdydd. Yn hon mae’n glir mai dyn y ddinas yw Geraint ac mae riddmau, synau a phobl y ddinas yma sy’n ysbrydoliaeth i gymaint o’i waith dros y degawdau.
Gigs ar y gweill
Mae’n ddeugain mlynedd ers i Geraint ryddhau un o recordiau hir pwysicaf y diwylliant roc yma yng Nghymru, Hen Wlad Fy Nhadau, ym 1978 ac mae taith artistig Geraint dros hanner canrif wedi bod yn eang ac arwyddocaol.
Mae Geraint wedi rhyddhau pedwar casgliad newydd dros y saith mlynedd diwethaf mewn cydweithrediad â band newydd a chynhyrchydd sain mentrus, Frank Naughton. Mae wedi bod yn adfywiad i yrfa gerddorol Geraint, ac roedd Y Selar yn hynod o falch i gyflwyno ein gwobr cyfraniad arbennig iddo llynedd.
Yn ôl Ankstmusik, mae’r casgliad diweddaraf yma’n cynnig i ni drysor cenedlaethol, artist, perthnasol, agored, llawn angerdd a chariad a thrac sain perffaith ar gyfer Haf poeth y ‘steddfod yn y ddinas.
Law yn llaw â’r cynnyrch newydd, bydd Geraint Jarman yn perfformio mewn cyfres o gigs dros y misoedd nesaf. Bydd tocynnau dau o’r gigs diweddaraf i’w cyhoeddi, yn Aberystwyth a Bangor fis Tachwedd, yn mynd ar werth ar 28 Mehefin.
Geraint Jarman yn fyw 2018
7 Gorffennaf – Gŵyl Nôl a Mla’n, Llangrannog
7 Awst – Gig y Pafiliwn, Eisteddfod Genedlaethol, Canolfan Mileniwm
11 Awst – Gig Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod Genedlaethol, Clwb Ifor Bach, Caerdydd
9 Tachwedd – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Dyma eitem Ochr 1 am Wobr Cyfraniad Oes Geraint Jarman yng Ngwobrau’r Selar llynedd…