She’s Got Spies i ryddhau albwm cyntaf

Mae cantores a ddaw’n wreiddiol o Lundain, a sydd wedi dysgu Cymraeg, ar fin rhyddhau ei halbwm cyntaf, a hynny yn iaith y nefoedd.

Wedi ydy enw albwm cyntaf She’s Got Spies, sef prosiect Laura Nunez a bydd yn cael ei ryddhau ar fformat CD ac i’w lawr lwytho’n ddigidol ar ddydd Gwener 14 Medi.

Label Recordiau Rheidol, sef label Dai Lloyd fu’n gyfrifol am label cynhyrchiol Recordiau Dockrad gynt, sy’n gyfrifol am ryddhau’r albwm 14 trac.

Recordiwyd y caneuon ar gyfer yr albwm rhwng 2006 a 2009 ac maent yn gweld golau dydd am y tro cyntaf ar ffurf albwm. Mae’r casgliad yn gymysgedd eclectig, melodig, weithiau hafaidd, weithiau melancolic, sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd fel casgliad.

O Rwsia i’r Antarctig

Ffurfiwyd She’s Got Spies yn wreiddiol 2005 ac yn fuan wedyn, gofynnwyd iddynt berfformio ar raglen cerddoriaeth Gymraeg S4C Bandit cyn iddynt fynd ymlaen i berfformio’n fyw.

Ers hynny, maent wedi chwarae nifer o gigs o amgylch Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, ac maent wedi mynd ymlaen i chwarae mewn sawl gwlad, yn gynnwys Rwsia, yr Eidal, Bwlgaria, ac yn fwyaf diweddar perfformiwyd ar long yn yr Antarctig!

Maent hefyd wedi recordio sesiynau ar gyfer BBC Radio Cymru – sesiynau a gafodd sylw eang, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau.

Daw Laura o Lundain yn wreiddiol, lle dechreuodd ddysgu Cymraeg cyn ffurfio’r band yng Nghaerdydd.

Ar ôl treulio ychydig o flynyddoedd yn alltud ym Moscow, Rwsia, mae Laura wedi dychwelyd adref i ryddhau’r albwm gyntaf yma, gyda gigs wedi eu cynllunio o fis Medi ymlaen.

Cynhelir gig lansio ar gyfer yr albwm yn y Gwdihŵ, Caerdydd, ar nos Fercher 19 Medi gyda chefnogaeth gan Codewalkers a Selena in the Chapel.

Dyma un o draciau’r albwm, ‘Dechrau Haf’: