Stori ryfeddol fideo newydd 9Bach

 Mae 9Bach wedi cyhoeddi fideo arbennig iawn ar gyfer eu cân ‘Ifan’ a ryddhawyd ar yr albwm Anian a gyhoeddwyd gan RealWorld Records yn 2016.

Cân am blentyn yn Moscow a dreuliodd ei blentyndod yn byw gyda haid o gŵn gwyllt ydy ‘Ifan’, ac mae’n stori wir.

Pan oedd Ivan Mishukov yn 4 oed cerddodd allan o’i gartref tlawd, enllibus a di-gariad a cerddodd am ddyddiau yn yr eira oer – nes iddo ffeindio’r cŵn.

O fewn dim roedd o’n byw yn danddaearol ac yn cadw’n gynnes ym mlew y cŵn. Cafodd ei wneud yn ben blaidd ganddynt – a theimlodd o erioed gariad tebyg i hyn.

Mae’r gân gan 9Bach yn cofnodi’r eiliad honno pan gafodd Ivan ei ddal gan yr awdurdodau flynyddoedd yn ddiweddarach. Ei gipio mewn rhwyd gan yr heddlu, a’r cŵn o’u cwmpas yn mynd yn wallgo. Doedd Ivan ddim isho cael ei ddal, ddim isho cael ei achub.

Ffeindio Ivan

Ffilmiwyd y fideo yn Rwsia a Chymru gan Guto Roberts ac Andrey Todorov, a hynny o’r galon ac fel llafur cariad yn hytrach na job o waith. “Pobol o’r un anian, o un wlad i’r llall, yn trio creu rhywbeth efo’u gilydd” meddai’r band.

Mae Ivan bellach yn ddyn, a’i hanes o wedi ei gofnodi mewn sawl llyfr a ffilm, ond neb i’w gweld yn gwybod lle mae Ivan erbyn heddiw.

Felly, roedd yr hyn ddigwyddodd nesaf tu hwnt i ddisgwyliadau’r gantores Lisa Jên a gyfansoddodd y gân

“Nesh i erioed feddwl y basa Ivan ei hun byth yn clywed y gân” meddai Lisa Jên.

“Er yr holl ymchwil nesh i… doedd na’m byd yn cadarnhau fod Ivan dal yn fyw hyd yn oed. Ond cyn i Andrey fynd allan i ffilmio i 9Bach o’i gartref yn Moscow, mi gafodd o’r syniad o drio cael gafal ar Ivan drwy fersiwn Rwsia o Facebook, ac mi lwyddodd!

“Mi wnaeth Andrey chwara a chyfieithu’r gân i Ivan a dyna pryd cynigiodd Ivan i fod yn y fideo i ni! Ma’r peth yn anhygoel.

“Mi ddangosodd o i Andrey lle oedd o’n arfer cadw’n gynnes efo’r cŵn, a’r fflat lle oedd o’n arfer byw cyn iddo ddenig o’i gartref, lle welodd o’i fam ddwytha’ yn y 90au.

“Dwi wedi mopio fod Ivan yn fyw ac yn iach ac wedi dod ar draws y gân ac wedi licio hi. Mae o wedi ei anrhydeddu bod ni wedi dalld ‘y teimlad’- mi oedd o’n ‘chuffed!

“Ma’ bod mewn cysylltiad efo fo wedi chwalu’ mhen i deud gwir. Y cam nesa ydy cyfarfod wyneb yn wyneb – mae o isho dod i Gymru ers clywed y gân, ond dwi isho mynd i Moscow – gawn ni ffraeo am huna, ond ma gen i dri chi yma felly gobeithio neith huna setlo petha” meddai Lisa.

Dyma’r fideo: