Cyhoeddwyd wythnos diwethaf fanylion yr unig gig bydd Sŵnami’n chwarae drios yr haf eleni.
Ni fydd y grŵp o Ddolgellau yn chwarae unrhyw gigs dros yr haf heblaw am hwnnw yng Nghlwb Ifor Bach ar 30 Mehefin sef ‘Gig Cloi Tafwyl’.
Yn cefnogi Sŵnami y noson honno fydd OSHH, sef Osian Howells (aelod o’r Ods) ynghyd â’r band ifanc cyffrous Ffracas.
Dyma’r disgrifiad o’r gig a roddi’r ar dudalen y digwyddiad a gynhelir ar y cyd rhwng Twrw, Tafwyl ac Clwb Ifor Bach:
“Ni’n edrych ‘mlaen at groesawi Sŵnami ar gyfer ei unig gig yn ystod yr Haf, yn ogystal â Oshh a Ffracas i Clwb Ifor Bach nos Sadwrn ar ôl Tafwyl.
Unwaith i’r haul fynd lawr, ac i’r gerddoriaeth stopio yng Nghastell Caerdydd, ymlwybrwch lawr Stryd Womanby a dewch i ddawnsio gyda ni.
Mi fydd DJ Garmon yn DJio rhwng y bands, a DJ Gruff tan oriau mân y bore.”
Mae’n debygol iawn bydd tocynnau’r gig yn gwerthu allan cyn y digwyddiad gan nad yw Sŵnami wedi gigio rhyw lawer ers peth amser, felly peidiwch oedi cyn prynu bobl.