Mae’r grŵp gwerin ifanc, Tant, wedi rhyddhau dau drac newydd ar Recordiau Sain ddydd Gwener diwethaf, 12 Hydref.
Enwau’r traciau newydd ydy ‘I Ni’ a ‘Bywyd Rhy Fyr’, ac maent wedi eu rhyddhau’n ddigidol yn unig ar hyn o bryd.
Pump o ferched talentog ydy aelodau Tant sef Angharad, Elliw, Modlen, Non a Siwan. Daeth y merched ynghyd am y tro cyntaf ym mhenwythnos a drefnwyd gan Trac, ‘Gwerin Gwallgo’, a gynhaliwyd yng ngwersyll yr Urdd Glan Llyn nôl yn 2016.
Daw y genod o wahanol ardaloedd o Ogledd Cymru. Mae Angharad (telyn), Modlen (llais a gitâr) ac Elliw (llais a gitâr) yn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, Non (telyn a llais) yn Ysgol Y Creuddyn ac mae Siwan (llais a cajon) yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Fe gafodd Y Selar y pleser o gyfarfod â nhw am sgwrs yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni:
Traciau gwreiddiol
Mae’r grŵp yn perfformio eu fersiynau eu hunain o glasuron gwerin Cymraeg gan fwyaf, ond yn ychwanegu deunydd gwreiddiol wrth iddynt ddatblygu a magu profiad.
Mae’r ddau drac newydd yn rai gwreiddiol, ‘I Ni’ wedi’i chyfansoddi gan Rhun ap Iorwerth, sy’n dad i Siwan, a ‘Bywyd Rhy Fyr’ wedi’i chyfansoddi gan Modlen o’r grŵp.
Mae dylanwadau’r grŵp yn cynnwys artistiaid Cymraeg fel Gwilym Bowen Rhys, Gwenan Gibbard, Angharad Jenkins a Patrick Rimes, oedd oll yn diwtoriaid ar y cyrsiau gwerin gwallgof a gynhaliwyd gan Trac.
Y gân gyntaf iddynt berfformio gyda’i gilydd fel grŵp oedd ‘Llwytha’r Gwn’ gan Candelas, ac mae’r repertoire wedi datblygu i gynnwys caneuon gan Meic Stevens , Gwilym Bowen Rhys a chaneuon gwerin o Gymru.
Bydd cyfle i weld Tant ar y teledu yn fuan wrth iddynt ymddangos ar y gyfres Noson Lawen yn – bu’r grŵp yn ran o noson a ffilmiwyd yn Venue Cymru, Llandudno yn ddiweddar.
Roedd Tant yn ffodus i berfformio yng ngŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau dros y dair blynedd ddiwethaf a bydd y merched yn dychwelyd i Ddolgellau ar 19 Hydref wrth iddynt ymuno gyda Bwncath mewn noson yn Tŷ Siamas.