Dydan ni ddim yn siŵr faint o ffans pêl-droed ydy Adwaith, ond yn sicr mae ffans pêl-droed Cymru’n gwybod tipyn mwy am y grŵp o Gaerfyrddin erbyn hyn gan bod un o’u caneuon yn cael ei defnyddio mewn fideo i ddathlu llwyddiant diweddar tîm merched Cymru.
Yn dilyn dwy fuddugoliaeth ardderchog tîm merched Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Rwsia dros yr wythnos ddiwethaf, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhyddhau fideo gwych i ddathlu eu campau.
Mae’r tîm yn cael ymgyrch anhygoel, ac yn haeddu clod aruthrol. Mae’r canlyniadau diweddaraf yn eu gadael ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, gyda gêm enfawr i ddod yn erbyn Lloegr, sydd bwynt y tu ôl iddyn nhw, ar 31 Awst.
Digon teg felly i’r Gymdeithas Bêl-droed ddathlu gyda fideo arbennig yn bwrw golwg yn ôl dros uchafbwyntiau’r gemau diweddar, ond yr hyn sy’n gwneud y fideo hyd yn oed yn fwy arwyddocaol ydy’r ffaith bod y Gymdeithas Bêl-droed wedi defnyddio’r trac ‘Fel i Fod’ gan Adwaith fel cerddoriaeth gefndir i’r pecyn.
Mae unrhyw yn sy’n dilyn ffrwd newyddion gwefan Y Selar yn gwybod bod ‘Fel i Fod’ wedi denu tipyn o sylw ers ei rhyddhau ar label Recordiau Libertino nôl ym mis Chwefror eleni.
Mae’r sengl wedi bod lwyddiant mawr ar blatfform ffrydio Spotify, a bellach wedi cael ei ffrydio ymhell dros 150,000 o weithiau ar y cyfrwng hwnnw.
Rhyddhawyd fideo swyddogol i gyd-fynd â’r sengl ym mis Mawrth, ac mae Adwaith yn ddiweddar wedi’u cyhoeddi fel un o artistiaid cynllun Gorwelion eleni.
Mae defnyddio’r trac ar fideo y Gymdeithas Bêl-droed yn siŵr o fod yn hwb pellach i’r gân, ac i’r grŵp.
Dyma’r fideo gwych gan y Gymdeithas Bêl-droed: