Tiwns newydd gan Ifan Dafydd

Am y tro cyntaf ers cryn amser mae’r athrylith cerddoriaeth electroneg, Ifan Dafydd, wedi llwytho ychydig o ganeuon newydd ar ei safle SoundCloud wythnos diwethaf.

Cafodd y traciau ‘Lisa’, ‘Lladd y Ddafad Goll’, ‘Crombil’ ac ‘Elidir’ eu llwytho ar-lein ganddo dros yr wythnos ac mae’r caneuon eisoes wedi denu tipyn o wrandawiadau mewn cyfnod byr.

Yn gyn aelod o’r grŵp Derwyddon Dr Gonzo, mae Ifan yn gynhyrchydd electroneg uchel ei barch ers ychydig flynyddoedd.

Un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd ydy ‘Celwydd’ gyda llais Alys Williams a ryddhawyd ar y ‘Record Las’, sef yr ail gasgliad a ryddhawyd gan label Recordiau Lliwgar yn 2013. Mae’r trac wedi denu dros 330,000 gwrandawiad hyd yma.

Rhyddhaodd Ifan sengl ddwbl ‘Treehouse / To Me’ ar label Push & Run yn 2012, gan ddilyn record flaenorol ‘No Good / Miranda’ yn 2011.

Digon tawel fu o ran cynnyrch newydd ers hynny, ond bydd ymddangosiad y traciau newydd yn siŵr o godi gobeithion ei ddilynwyr.

Dyma ‘Lisa’: