Wythnos diwethaf cyhoeddodd criw Focus Wales bod Gruff Rhys yn chwarae sioe band llawn arbennig yn lleoliad newydd The Live Rooms, Wrecsam ar ddydd Gwener 7 Rhagfyr.
Ac yna, cwta 24 awr ar ôl rhyddhau tocynnau’r gig ar ddydd Iau 20 Medi, daeth cyhoeddiad pellach bod holl docynnau’r sioe wedi’u gwerthu.
Daw’r sioe yn dilyn rhyddhau’r record hir Babelsberg yn gynharach eleni – pumed albwm unigol Gruff, a’i record gyntaf i’w ryddhau ar Recordiau Rough Trade ers y clasur Candylion yn 2007.
Recordiwyd y deg trac sydd ar yr albwm am y tro cyntaf yn gynnar yn 2016 mewn sesiwn recordio a barodd ddim ond tridiau gyda’r cerddorion Kliph Scurlock (gynt o’r Flaming Lips) a’r aml-offerynwyr Stephen Black (Sweet Baboo) ac Osian Gwynedd.
Fel petai cyhoeddi albwm newydd ddim yn ddigon, gwelwyd Gruff Rhys yn ymddangos eleni am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin gyda chyfres o wyth sioe, lle gwerthwyd pob tocyn. Bydd hefyd yn teithio ledled UDA, Ewrop, a’r DU.
Mae ymddangosiad Gruff yn lleoliad newydd The Live Rooms yn amlwg wedi cyffroi cynulleidfa ardal Wrecsam wrth i’r tocynnau oll werthu mewn llai na 24 awr.
Ni fydd safle y lleoliad cerddoriaeth newydd yn anghyfarwydd i bobl sy’n dilyn cerddoriaeth yng Nghymru, gan mai hen safle Gorsaf Ganolog (Central Station) yn Wrecsam ydy’r adeilad dan sylw – lleoliad gigs enwog yn yr ardal sydd wedi denu nifer o enwau mawrion cerddoriaeth dros y blynyddoedd.
Er hynny, mae’r lleoliad wedi gweld buddsoddiad helaeth i’w ail-ddatblygu a bydd yn agor yn swyddogol ar 13 Hydref ar ôl i’r Orsaf Ganolog gau yn gynharach ym mis Medi.