Tocynnau Maes B ar werth nawr

Mae tocynnau gigs Maes B ar werth yn swyddogol ers dydd Mercher 29 Mai.

Daw’r newyddion yn fuan iawn ar ôl cyhoeddi lein-yp llawn y nosweithiau, wedi cyfnod hir o ddyfalu ynglŷn ag union leoliad y gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni.

Mae modd prynu tocyn cynnar ar gyfer yr ŵyl ar hyn o bryd, sy’n rhatach na phris tocyn arferol yn nes at yr amser. Cadarnhawyd yng nghanol mis Mai taw adeilad Dr Who ym Mae Caerdydd fydd cartref Maes B eleni, dafliad carreg o brif safle yr Eisteddfod yn y Bae.

Bydd y nosweithiau’n cael eu cynnal rhwng y 8-11 o Awst yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Mae modd archebu tocynnau o wefan Maes B nawr.