Bethan Williams sydd wedi bod yn gwrando ar EP cyntaf y gantores o Ddinbych, Beth Celyn, ar ran Y Selar.
Mae llais cyfoethog a chryf Beth Celyn yn hawdd gwrando arno ac yn gweddu steil hamddenol yr EP i’r dim. Mae’r cyfeiliant yn rhoi platfform i’w llais hi mewn sawl ffordd.
Mewn sawl cân mae’n sylfaen syml sy’n rhoi lle amlwg i’w llais hi, ond mae’r piano a’r dryms yn ‘Duwiau’ yn cael eu defnyddio i gynyddu sŵn a bît y gân wrth ailadrodd riff ac adeiladu arno, cyn tawelu’n sydyn a llais Beth yn cymryd eu lle.
Mae’r gitârs ar ‘Gwenllian’ yn creu naws hollol wahanol, gofodaidd, a hynny tua diwedd y gân, gan roi dimensiwn newydd iddi.
Strwythur eithaf syml sydd i’r caneuon hefyd, a’r alawon cryf yn llifo’n rhwydd. Drwy ailadrodd llinellau yn syth ar ôl ei gilydd, cynyddu a lleihau sain ac effaith ei llais, mae Beth Celyn yn cynnal diddordeb a chreu naws, ac yn llwyddo i wneud hynny trwy’r EP.
Darllenwch gyfweliad â Beth Celyn yn rhifyn Mawrth 2018 o’r Selar.