VRï i ryddhau albwm cyntaf

Mae label Recordiau Erwydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau albwm cyntaf y grŵp gwerin VRï yn yr hydref.

Recordiau Erwydd ydy is-label newydd y label sefydledig Sbrigyn-Ymborth, ac maent eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn rhyddhau albwm newydd Gwilym Bowen Rhys, Detholiad o Hen Faledi, ar 1 Medi eleni.

VRï ydy prosiect diweddaraf tri artist gwerin Cymreig cyfarwydd. Yr aelodau ydy Aneirin Jones, sy’n aelod o’r grŵp No Good Boyo; Jordan Price, sydd hefyd yn aelod o No Good Boyo yn ogystal ag Elfen; a Patrick Rimes sy’n fwyaf cyfarwydd fel aelod o’r grŵp gwerin llwyddiannus, Calan.

Bydd albwm cyntaf y triawd yn cael ei ryddhau ar 1 Hydref.