Y Parrot i gau ei ddrysau

Daeth newyddion hynod o drist o Gaerfyrddin ddoe wrth i leoliad cerddoriaeth amlycaf y dref, Y Parrot, gyhoeddi y byddant yn cau eu drysau am y tro olaf ar ddiwedd 2018.

Mewn datganiad meddai’r lleoliad:

“Mi wnaethon ni drio, mi wnaethon ni wir drio, ond mae wedi do yn glir i ni, er gwaethaf ein ymdrechion gorau, nad oes modd i ni gadw dau pen llinyn ynghyd.

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gweithio yma dros y blynyddoedd, yr holl gerddorion a pherfformwyr sydd wedi perfformio yma a phawb sydd wedi mynychu ein digwyddiadau. Rydym wedi gweld cymaint o sioeau ffantastig a bydd yr atgofion yn byw yn ein calonnau am byth.”

Yn ôl y ganolfan, bydd yr amserlen digwyddiadau rhwng hyn a diwedd y flwyddyn yn parhau, a’r drysau’n cau yn derfynol ar Nos Calan eleni.

Mae’r datganiad yn pwysleisio bod y siop Recordiau sy’n byw uwchben y lleoliad, Tangled Parrot, yn parhau i weithredu ac nad oes unrhyw gynlluniau i’w chau.

Cartref cerddoriaeth yn y Gorllewin

Mae’r lleoliad wedi bod yn gartref pwysig i gerddoriaeth fyw yn y Gorllewin ers sawl blwyddyn, ac mae wedi bod yn gyrchfan, ac yn llwyfan pwysig i artistiaid ardal Caerfyrddin yn arbennig.

Ymysg y bandiau o’r tu hwn i’r ardal leol sydd wedi mynegi eu tristwch am y newyddion mae Breichiau Hir:

Band amlwg arall sydd wedi perfformio’n rheolaidd yn Y Parrot ydy Adwaith, dyma eu hymateb hwy ar Twitter:

Un arall o fandiau ifanc Caerfyrddin ydy Los Blancos a ddywedodd:

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Parrot gau ei ddrysau – bu’n rhaid i’r ganolfan gau ym mis Awst 2014 gan nad oedd modd i’r perchnogion gynnal y busnes yn ariannol.

Bryd hynny, llwyddodd ymgyrch gan grŵp o’r enw Cymuned Gerddorol Gorllewin Cymru i godi dros £10,000 er mwyn ail-agor y ganolfan. Mae’n debyg bod y comediwr amlwg Rhod Gilbert wedi cyfrannu £3,000 at yr achos bryd hynny.

Ail-agorwyd y lleoliad, sydd ar Stryd y Brenin yng Nghaerfyrddin, ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ac mae wedi llwyfannu gigs rheolaidd ers hynny.