Y Reu am ail gynnau trafodaeth ffoaduriaid

Darn o newyddion alla’i fod wedi mynd ar goll yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol oedd bod Y Reu wedi rhyddhau sengl newydd.

Mae’r grŵp o Ddyffryn Nantlle wedi cael cyfnod cymharol dawel o ran gigio’n ddiweddar, ond roedden nhw ar lwyfan Maes B ar nos Wener yr Eisteddfod, gan hefyd ryddhau eu sengl ddiweddaraf yn ystod yr wythnos.

‘Cysgu’n y Cysgodion’ ydy enw’r sengl newydd, ac fe’i rhyddhawyd ar 9 Awst i’w lawr lwytho’n ddigidol o’r llwyfannau digidol arferol.

Dyma’r sengl gyntaf i’r band ryddhau ers ‘Beef’ a ‘Porth Neigwl’ a ryddhawyd dros yr haf llynedd, lle arbrofodd y band gyda sŵn trymach a chrasach i’r hyn rydym wedi arfer clywed ganddynt.

Mae’r sengl newydd yn gyfuniad o’r sŵn trwm hwnnw yn ‘Beef’ a ‘Porth Neigwl’ ac hefyd yn mynd yn ôl at wreiddiau mwy electronig y band.

Pwysleisia’r band bod y testun, sef yr argyfwng ffoaduriaid, wedi ei ddefnyddio i geisio ail gynnau’r drafodaeth oedd yn berwi cyn i’r cyfryngau gyfeirio eu holl sylw at Brecsit.

Recordiwyd ‘Cysgu’n Y Cysgodion’ yn stiwdio Drwm yn Llanllyfni gyda’r cynhyrchwyr Ifan Jones ac Osian Huw Williams. Mae’r band yn teimlo fod y sengl yn flas ar bennod nesaf Y Reu o ran sŵn.

I gyd-fynd â’r sengl newydd bydd trac bonws yn cael ei rhyddhau hefyd, sef fersiwn hir o ‘Porth Neigwl’.

Mae ’na nifer o fideos o set Y Reu ym Maes B eleni wedi eu cyhoeddi ar sianel YouTube Ochr 1, gan gynnwys hwn o ‘Cysgu’n y Cysgodion’: